Argyfwng teuluol? eich hawl i gael amser i ffwrdd

URN No: 06/562

 

Mae argyfyngau'n digwydd!

Mewn llawer o achosion, mae gennych bellach yr hawl i gael amser i ffwrdd o'r gwaith i ddelio ag argyfwng yn ymwneud â rhywun sy'n dibynnu arnoch chi. Allwch chi ddim cael eich cosbi gan eich cyflogwr am gymryd amser i ffwrdd, ar yr amod bod eich rhesymau am ei gymryd yn ddilys.

Felly pwy sy'n cyfrif fel pobl sy'n dibynnu arnaf?

Gall eich gŵr, gwraig neu gymar, plentyn neu riant, neu rywun sy'n byw gyda chi fel rhan o'ch teulu oll gael eu hystyried fel pobl sy'n dibynnu arnoch. Gall eraill sy'n dibynnu arnoch chi yn unig am help mewn argyfwng fod yn gymwys hefyd.

Felly beth yw argyfwng?

Argyfwng yw pan fo rhywun sy'n dibynnu arnoch:

  • yn sâl ac angen eich help
  • wedi bod mewn damwain neu bod rhywun wedi ymosod arnynt
  • eich angen chi i drefnu eu gofal tymor hwy 
  • eich angen chi i ddelio â thrafferthion annisgwyl neu fethiannau mewn gofal, er enghraifft, gwarchodwr plant neu nyrs yn methu â chyrraedd
  • yn rhoi genedigaeth

Cewch amser i ffwrdd hefyd os bydd person dibynnol yn marw a bod angen i chi wneud trefniadau'r angladd neu fynychu'r angladd.

Beth os byddaf yn gwybod ymlaen llaw fod y broblem yn mynd i godi?

Mae'r hawl gyfreithiol ond yn cwmpasu argyfyngau. Os ydych yn gwybod ymlaen llaw y bydd angen amser i ffwrdd arnoch, fe allai fod yn bosib i chi drefnu hyn gyda'ch cyflogwr drwy gymryd math arall o amser i ffwrdd. Os yw'r achos yn ymwneud â'ch plentyn, efallai y bydd gennych hawl i gyfnod o amser i ffwrdd fel rhiant (gweler 'Sut galla i ganfod mwy?').

Faint o amser gallaf ei gymryd i ffwrdd?

Faint bynnag o amser y mae'n ei gymryd i ddelio â'r argyfwng ar y pryd. Er enghraifft, os bydd eich plentyn yn mynd yn sâl, cewch gymryd digon o amser i ffwrdd i ddelio â'u hanghenion ar y pryd, megis mynd â hwy at y meddyg a threfnu gofal iddynt. Ond bydd angen i chi wneud trefniadau eraill os byddwch am aros i ffwrdd o'r gwaith am gyfnod hwy er mwyn gofalu amdanynt eich hun.

A gaf fy nhalu? 

Ddim o anghenraid. Mae'n dibynnu ar eich cyflogwr neu'ch contract cyflogaeth. Nid oes unrhyw ddyletswydd cyfreithiol ar eich cyflogwr i'ch talu am gymryd amser i ffwrdd.

Faint o rybudd fydd yn rhaid i mi ei roi i'm cyflogwr?

Rhaid i chi ddweud wrth eich cyflogwr mor fuan â phosib pam eich bod i ffwrdd o'r gwaith a pha mor hir y disgwyliwch y byddwch i ffwrdd. Os byddwch yn dychwelyd i'r gwaith cyn i chi gael y cyfle i gysylltu â'ch cyflogwr, rhaid i chi ddweud wrthynt pam yr oeddech yn absennol.