Pwy ydyn ni
Dyma rai ffeithiau allweddol am yr Adran:
Y Staff
Mae gan yr Adran ryw 2,500 o bobl.
Yn ychwanegol, mae rhyw 500 o bobl yn gweithio i UK Trade & Investment yn y Deyrnas Unedig.
Mae ein rhwydwaith o sefydliadau partneriaid yn cynnwys naw asiantaethau gweithredol sydd yn cyflogi tua 14,500 o bobl.
Y Gweinidogion
Y Gwir Anrh. y Dr Vince Cable AS, yw’r Ysgrifennydd Gwladol ac mae ganddo dîm o Weinidogion i’w gynorthwyo.
Y Tîm Rheoli
Martin Donnelly yw’r Ysgrifennydd Parhaol ac mae ganddo dîm o uwch-reolwyr i’w gynorthwyo.
Y Gyllideb
£17.6 biliwn yw cyllideb yr Adran ar gyfer 2010/11, gan ostwng i £14.6 biliwn erbyn 2014/15 o dan yr Adolygaid Gwariant.
Y Lleoliadau
Mae lleoliadau’n staff yn cynnwys Llundain, Sheffield, Billingham, Caerdydd, Darlington, Glasgow, Manceinion, Nottingham, Runcorn a Watford.
Y Strwythur
Mae’r Adran wedi’i threfnu’n wyth grŵp rheoli, sef: Busnes a Sgiliau; Cyllid a Masnach; Economeg, Strategaeth a Rheoleiddio Gwell; Fframweithiau Marchnad; Gwybodaeth ac Arloesi; y Gyfraith, Pobl a Chyfathrebu; Y Weithrediaeth Cyfranddalwyr; UK Trade & Investment.
Mae amrywiaeth eang o sefydliadau yn helpu BIS i gyflawni ei blaenoriaethau strategol. Mae’n rhwydwaith o sefydliadau partner (Partneriaid, BIS Public Bodies Directory 2010 (PDF, 440 Kb) ) yn rhoi gwasanaethau, gwybodaeth a chyngor i’r Adran ac yn uniongyrchol i ystod eang o bobl a sefydliadau.